Dyddiadau

Dydd Iau 23 a dydd Gwener 24 Ebrill 2020

Lleoliad

Prifysgol Bangor, Gogledd Cymru, LL57 2DG

Wedi'i ohirio: Ethnograffeg a Ffiniau Symudol Plismona , 23-24 Ebrill 2020

Mae'n ddrwg gennyf eich hysbysu bod y Gynhadledd Ethnograffeg a Ffiniau Symudol Plismona wedi'i ohirio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a siom y gallai hyn ei achosi ond mae'r Brifysgol wedi penderfynu gohirio nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau. Mae Prifysgol Bangor yn monitro'r sefyllfa mewn perthynas â'r pandemig Coronafirws (Covid-19) yn ofalus, a'n blaenoriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn yw lles myfyrwyr, staff, ymwelwyr a'r gymuned leol. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn ag aildrefnu'r gynhadledd hon yn y dyfodol agos.

Gwelwyd bod ethnograffeg yn fethodoleg hanfodol ar gyfer mynd mewn i'r byd plismona a'i ddeall. Mae'r maes plismona cyfoes 'lluosog' yn cynnwys llu o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan wahodd llwybrau newydd ar gyfer ymchwil a thrafodaeth ethnograffig. Mae'r gynhadledd ddeuddydd hon yn dwyn ynghyd ysgolheigion ac ymarferwyr plismona i drafod a rhannu dealltwriaeth o waith maes ethnograffig a wnaed gyda gweithredwyr plismona a gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli cymdeithasol ar draws gwahanol gyd-destunau.

Rydym yn croesawu papurau gan ymchwilwyr - anogir ymchwilwyr doethurol yn arbennig i gyflwyno papurau - rhai sydd wedi gwneud gwaith maes ethnograffig gyda ffurfiau plismona lluosog (e.e. swyddogion gwarchod ffiniau, grwpiau cymdeithasau sifil, cwmnïau diogelwch preifat) a'r rheini sy'n ymchwilio i ffurfiau mwy traddodiadol o blismona'r wlad trwy ddull ethnograffig. Rydym hefyd yn croesawu gweithwyr proffesiynol ym maes plismona sydd â diddordeb mewn defnyddio ymchwil ethnograffig ar gyfer ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth.

Galwad am Bapurau

Y dyddiad cau ar gyfer crynodebau yw Dydd Gwener 6 Mawrth 2020. Cyflwynwch eich crynodeb yma